XLI. MARWNAD LLYWELYN GOCH AP MEURIG HEN.
O DDuw teg a'i ddaed dyn,
A welai neb Lywelyn
Amheurig foneddig hen,
Ewythr, frawd tad yr awen?
Mae ef? Pwy a'i ymofyn?
Na chais mwy, achos ni myn,
Meibion serchogion y sydd,
A morwynion Meirionydd.
Rhyfedd o ddiwedd a ddaeth
Os Rufain fu'r siryfiaeth.
Dyn nid aeth, a Duw'n dethol,
Erioed fwy cwyn ar i ol.
I baradwys i brydu,
Yr aeth bardd, ior eitha' bu—
I'r lle mae'r eang dangnef,
Ac aed y gerdd gydag ef.
Nid rhaid dwyn ynof ond tri,
Nid hagr cael enaid digri',
Mawr yw'r pwnc, os marw'r pencerdd,
Mawr a'i gwyr—ni bydd marw'r gerdd.
Pan ofynner, eur-ner oedd,
Y lleisiau yn i llysoedd,
Cyntaf gofynnir, wir waith,
I'r purorion per araith,
Hy iawn-gerdd y gwr Hen-goch,
Lluaws a'i clyw, fel llais cloch,—
Nid oes erddygan gân gainc,
Gwir yw, lle bo gwŷr ieuainc,
Nid oedd neb coeth ateb cu
Yng Ngwynedd yn ynganu;
Ni bydd digrif ar ddifys,
Nac un acen ar ben bys,—