Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

O rhed march ar hyd y maes,
Gorwyllt lwdn, fal gafr wallt-laes,
Ni thrigwn eithr ar ogwydd,
I'm cyfrwy, mwy nag wy gwydd.
O thiria hwch a throi hwn,
Camp yw arnaf, y cwmpwn.
O siga cloriau cleiriach,
O syrth, ni ddwg un nos iach,
O brathaf flaen fy nhafawd,—
Wel! yna gwaethyga gwawd.
Nid da i'r cylla ceullawn,
March a thuth amorchudd iawn.
Llyna megis y lluniwn,
Pes ceid yng ngwyliau'r Pasg hwn,
Hacnai a siwrniai sarn,—
Didramgwydd da di-drym-garn.
Gwyn i fyd, hefyd yr haf,
A'i gwelai y modd y gwelaf;
Gwas go gwta, da di-hort,
Ag eddystr mewn cebystr cort,
Yn dyfod dan amod im,
Yn anrheg gan iôn iawn-rym.
Mi a wnaf lawn lawenydd,
I'w gennad ef gyn y dydd ;
Drwy groeso Duw, troi gras da,
Wrtho ef a'm diwartha.


XLIII. OWEN GLYN DWR.

ADDEWAIS hyn, do ddwywaith,
Addewid teg addaw taith;
Taled pawb tâl hyd y bo
I addewid a addawo;
Pererindawd ffawd ffyddlawn,
Perwyl mor anwyl, mawr iawn;