Mwy na dim oedd mewn y deml,
O'r gwyrda beilch, gwiw ar-deml;
Rhai'n gwasgu bysedd, gwedd gwael,
Mawr ofid, fal marw afael.
Rhianedd cymyredd cu,
Rhai'n llwygo, rhai'n llewygu,
Rhai'n tynnu i top boparth,
Gwallt i pen megis gwellt parth;
A'r rheidusion, dynion dig,
Yn udo yn enwedig;
Siglo a wnair groes eglwys,
Gan y godwrdd a'r dwrdd dwys;
Fal llong eang wrth angor,
Crin fydd yn crynnu ar for;
Gwae di, Iolo! Gwae i deulu,
O'r pyllaid aeth i'r pwll du;
Bwrw mân raean neu ro,
Ar i wartha fu'r ortho;
Ac o lawer awr fawr fwriad,
Pawb o'i gylch, fal pe bai gad;
Hysbys ym mhob llys a llan,
Dorri'r ddaear yn deiran;
Drwg y gweddai, dra gweiddi
Am wr fal ef, nef i ni.
Gwedi cael, hael henuriad,
Oes deg gan Dduw ag ystad.
Gwell tewi na gweiddi garw,
Yn rhygollt tost am rhygarw.
Llyma oedd dda, iddo ef,
Addoli Crist heb ddolef.
Gydag Eli, sengi sant,
Ag Enog mewn gogoniant.
Ni ddeuant, y ddau sant ddwys,
Brodyr ynt, o baradwys,
Oni ddêl hoedl i'w law,
Dydd-brawd yn yn diwedd-braw;
Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/125
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
