XLVII. I OWEN AB GRUFFUDD AB OWEN
O LAN TAWY, I OFYN MARCH.
ARGLWYDD pellenigrwydd parch,
Owain wayw, blaenfain blin-farch:
Balch-fab Gruffudd, ni bydd ball,
Baun aur fab Owain arall ;
Gerdd o hydr gwraidd hoew-drafn,
Gethin loew, gynhefin lafn,
Mur un-blaid, mawr ewyn-blas,
Macwy o lan Tawy las;
Tirion-walch cadarn walch cain,
Twr naw-osgl teyrn Owain.
Tew-faedd gwyllt, etifedd gwrdd,
Twrn gwynfyd teyrn gwin-fwrdd.
Mae i'm bryd o loew-bryd lwybr,
Yn niwedd an Ion ewybr.
Gwn y caf, blaen-rwyddaf blanc,
Gan Owain eur-gnyw ieuanc.
March ar ol i bedoli,
Mawr i naid yn fy marn i;
Brysiwr tir, gwelir mai gwrdd,
Braisg i egwyd, brwysg agwrdd;
Ffraeth gynnor, gyrchwr gorchest,
A ffroen rôth mewn ffrwyn, a rest;
Llydan dal drud, arial draidd,
Llygad-rwth, a lliw gwydraidd ;
Llid o llithr, llew du llathraid,
Llawfron arth, nid llwfr i naid;
Mawr neidiau uwch clwydau cledr,
March dihafarch, du hyfedr;
A ffrom oedd osod i'w ffriw,
Ffrwyn wan-lledr, ffroen ewyn-lliw;
Crair llathr, gwyllt sathr 'rhyd gwellt-saig
A chryf ar dor allt a chraig;