Ag a ddof, pan gaf ddyfod,
Yn oed gordderchwr i'r nôd.
Pan ddel Fawrth a'i ryfawrthin,
A chilio gwynt a chael gwin,
A gloewlaw wybr goleulawn,
A gwlith angen-frith yng nghawn,
A niwl gwyd yn ol y gwynt,
Yn diffryd canol dyffrynt,
A'r hedyddod, rhai diddan,
Yn cael yn yr wybr eu cân,
A tho Mai, a thai mwyeilch
A phaentio gwydd a phŷnt gweilch.
Cynnyrch ar seith-iyrch y sydd,
A hindda, a gwanhwyn-ddydd.
Hyn y sydd ddywenydd im,
Cael o'm hoedl cwlm ehudlym;
Mynychu i dyfu dawn
At Rys deg wtres digawn-
Clywed gwaslef merched Mai,
Cwn a bely a'm cynhaliai:
Bwhwman y winllan werdd,
Yn y glasgoed, enw glwys-gerdd;
Cyd orwedd mewn coed irwyrdd,
Cyrchu ffair, cyfarch ar ffydd;
A bwrw nyn, nis bwriai neb,
Dyna, ar i lledwyneb;
Ymddiddan, gwledd gyfeddach,
Hyn a wnai gorff hen yn iach.
III. BARF Y BARDD.
A'I RHWYSTRODD I GUSANU EI GARIAD.
DOE'R pryd hwn yr oeddwn i
Drwy fedw yn ymdrafodi,
Ag Euron hardd, goroen hoew,
Gorwyr Eigr, gair oreu-groew.