Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ieuan, degan fendigaid,
Offeiriad i dad a'i daid,
Beth oedd yntau, goreu gwr,
Ieuan, diddan fedyddiwr?
Mab hoff, o gorff offeiriad,
Ffwrdd y doeth un ffordd a'i dad.
Tad doeth Gwynog a Nwythan,
Oedd esgob mewn cadr-gob can.
Teca esgob o bob iaith
Oedd dad Glân Elian, eilwaith.
Ni liwir yn oleuad
I neb odíneb i dad.
Ni ddwg mab arab aren,
Baich i dad, am bechod hen.
Am hynny, yn wir, medd Syr Saint,
Y gwir freinia gwyr unfraint,
O mynnir cred a bedydd,
Rhaid yw offeiriad a ffydd.
Swydd offeiriad, tad a'i twng,
Gallu rhwymaw a gollwng.
Dyn a ddel dan i ddwylaw,
Am a wnêl cyn dêl, o daw.
Maddeu gweithred a meddwl,
Diffodi caledi cwl;
O chaiff gymun a chyffes,
Fo ai i nef a fo res;
Ag ef od af i gyfuwch,
Ni wyr cythrel trafel trwch.
Nid oedd gymaint braint y brawd,
A'i faddeuant i ddefawd,
Ag nid teilwng gollwng gwyll,
Ni wyr gymunaw ereill;
Na bedyddio, bo ddiddim;
Ni wyr Dduw,-a wyr e ddim,
Mwy na mwdwl moel madarch?
Moeswch mwy a ys na march.