Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XI. Y BRAWD LLWYD O GAER.

HYWEL, urddedig hoew—walch,
Ab Madog aberthog balch,
Mwy wrth gariad, lle cad cost
O Adda, dalm a wyddost,
Na neb, godineb nid oes
Gennyd, ond serchog einioes.
Ti a gwynaist, teg ener,
Wrthyf unwaith warth fy nêr,
A'r cwyn tau, di ri rhy-ddoeth,
Yw'r cwyn mau finnau, wr coeth.

Lled addef llid a wyddost,
Llyma'r cwyn dirwyn tost,—
Llun engl a wna'r llun an-glaer,
Llid gwyn y brawd llwyd o Gaer.
Llwdn troednoeth a ddaeth yn ddig,
Lle'r oedd gwraig llawer eiddig;
A mwyn rianedd mewn mainc,
Mwyaf gerym yn ieuainc;
Gwaethaf brawd i bregethu,
I foes wrth urddol a fu.
"Nid a i nef," meddai ef, "un
O charai wr a choryn."
Uwch yw'r swydd, Och ar i siad!—
Iddaw, ond gwir a wyddiad;
Pan na bai rydd serthydd serch,
I urddol wraig neu ordderch,
Rhoed cennad, rhad a'n cynnail
Rhydd, myn y dydd, mewn y dail.

Chwaen hagr, gan leidr gorwag-frwysc,
Chwerw dafawd oedd i'r brawd brwysc,—
Cymryd arnaw, deu-fraw dig,
Geibr nedd, gobr un eiddig;
Fwrn oer fraw, farnu ar frys
Ar enaid neb o'r ynys,