Gwell y peirch, gwiw allu pwyll,
Duw Dad, im dy didwyll
Gwraig ysgolhaig, os gwyl hi,
Urddoi a mwy gwnai erddi
Noc y dywawd y brawd brau,
Llwyd o Gaer, llidiog eiriau;
Mawr o was bras oedd y brawd,
O ddyrnwy aml i ddyrnawd;
Na bo gwell, hen gawell gwyr,
Y darffo i'r brawd oer-ffwyr;
Nei ddal lleidr gwyllt-gal gwallt-gylch,
Un cas yn rhodio'n yn cylch;
A'i gwff llwyd mewn gafl llechyr,
Gynhaig o Seisnig-wraig sur;
Cryw ar wisg oer osgedd,
Clawr croen crewr poen pob bedd;
Cwthr pla, lle cnofa llau cnwd.
Ci ceillgam bwdr cocyllgwd;
Ysgrin gwrach fraen sothach frau,
Ysgod hen felgod folgau;
Ystum ar sofl gofl gywen,
Ystlys ustus ys heb pen;
Ystelff diffaith, myn Seiriol,
Ystyried myhuned moel,
Na charai, na fynnai ferch.
Draw erddaw o draserch.
Pé chai'r mab fenthyg abid,
Gan hwn, yn dwyn llawn gwyn llid,—
Gwell o beth y pregethai,
Na mil o honaw ym Mai:
A chael gan fun loew-lun law,
O fwynder i warandaw,
A chael yn lledrad, o chae
A chain wiw riain warae,
Distadl athrodwr dwys-taer,
Dywed, frawd godlawd o Gaer,
Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/40
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon