Beth a holid, barcud bedd,
Gysgwr ar gam i'r gwragedd,
Ac enaid breladiaid bro,
Wynedd a Phowys yno.
Gwyliwch a gwelwch y gwr,
A brys ing, fal bras iangwr,
Gwydn duth, ar un gwadn ai dau,
Llwdn heb warthaf anlladau;
Rhoed un llusg, rhaid in i ladd,
Rhyw dost-wr, reidus diradd;
Rhoed arall yn rhaid oerwr,
Ffonnod yn gardod i'r gwr,
Drysid Duw rhagddaw, baw o beth,—
Drwsa brag dros i bregeth.
XII. Y LLAFURWR.
PAN ddanghoso rhyw dro rhydd,
Bobl y byd, bawb o lu bedydd,
Ger bron Duw cun, euddyn oedd,
Gwiw iaith ddrud i gweithredoedd,
Ym mhen mynydd, lle bydd barn,
I gyd, Olifer gadarn,—
Teg fydd chwedl di-ledlaes
Llafurwr, tramwywr maes.
O rhoddes ef, wr hoew-ryw,
Offrwm a'i ddegwm i Duw,
A'i gardod trwy gywirdeb,
O'i lety, ni necy neb;
Enaid da yna uniawn,
A dâl i Dduw dylai ddawn.
Hawdd i lafurwr hoewddol,
Hyder ar Dduw ner yn ol.
Ni fynn farn, ond ar arnawdd,
Ni chair yn i gyfer gawdd;—
Ni ddeil ryfel, ni ddilyn,
Ni ddifa am i dda, ddyn;