Ni bydd ry gadarn arnam,
Ni hawl yn gymhedrawl gam;
Nid addas onid i ddioddef,
Nid bywyd, nid byd heb ef.
Gwn mai digrifach ganwaith,
Gantho, modd digyffro maith,
Ganlyn, ni'm dawr heb fawr fai,
Yr aradr crwn a'r irai,
Na phe bai pen dorrai dŵr
Yn rhith Arthur anrheithiwr.
Ni cheir eithr o'i weithred,
Aberth Crist i borthi cred,
Na bywyd-pam y beiwn?—
Pab nag ymherodr heb hwn,
Na brenin hael-win hoew-lyw.
Dien i bwyll, na dyn byw;
Lywsidarus hoenus hen
A ddyfod hyn yn ddien;
A buchedd dda ddibechawd,
Mewn crefydd ffydd a ffawd,
Gwyn i fyd trwy iawn-bryd traw,
A ddeil aradr a'i ddwylaw.
Rhwyg cryg banadl gwastad-faes,
Cryw mwyn yn careio maes;
Cerir i glod, y crair glwys,
Cywir yr egyr hoew-gwys;
Cawell-tir gwydd, rhwydd yr hawg,
Call drefn urddedig cylldrawg;
Un dryll-wraidd dyffryn-wraidd ffrwyth
Yn estyn gwddf anystwyth,
Ystig fydd beunydd o'i ben—
Ystryd iach is traed ychen.
Aml y canai emyn,
Dilyn y fondid a fynn.
Ceiliagwydd ogwydd eigiawn,
Cywir o'i grofft y ceir y grawn;
Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/42
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon