Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XVI. DUW.

Duw, un a thri, dawn iaith rhydd,
Duw tri ag un tragywydd,
Duw ar ddiwedd fy ngweddi,
Duw, dod dy drugaredd di—
Yna y'th elwir yn unawr,
Duw dialedd a mawredd mawr.
Wedi'r loes ar groes y grog,
Duw tragwrol trugarog,
Duw yn dad, dewin didwyll,
Duw, Fab Duw, ysbryd pob pwyll.
I Lan Beblig yleni,
Yno y'th roed yn un a thrt,
Yn Drindawd undawd iawnder,
I uchel swydd uwch law'r ser;
Yn Dad, yn Fab, yn Aberth,
Yn Ysbryd cadernid certh;
Peblig ddiddig, dy addas,
Pardwn ar bob grwn, a gras;
Duw a'th ddug, di-addug don,
Yng ngwl at i angylion;
Tithau a ddygaist, wyt doethaf,
Fyw fy mledd, atad, fy Naf;
Yn Dad, yn Frenin cadarn,
Yn Fab, Ysbryd, yn Farn.
Delwau uwch o aur dilin
Dewr dy law, Duw ar dy lin,
A'i grys o waed, a'i groes wiw,
Dyhuddwr pawb, Duw. heddyw.
G'leuni gwawd Ysbryd Glan gwyn,
Deirid ar lun aderyn;
Pedwar ryw pren, maen nefawl,
Yn dy groes, un Duw grasawl;