Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXII. MAIR.

DOETH i'th etholes Iesu,
Em addwyn, yn fam iddo.
Dofydd i ddyfod a fu,
Rhag dial afal Efa.

Ni chymerth Efa yr afal—gwardd
Heb gyffwrdd a gofal;
Ni ddaw drwg heb drwm dial,
Mwy nag yr a'r da heb dal.

Teg fu'r tâl eiriol o air—i Drindod.
O drendal y gadair,
Pan ddaeth Crist Naf, araf gair
O Oen Duw Pab, yn fab i Fair.

Mair! Edrych arnaf, ymherodres,
Morwyn bennaf wyd, Mair unbennes;
Mair diron air, Mair Deyrnes,
Mair oleudrem, hael Lywodres;
Miserere mei! Moes Eryres,
Prydlyfr gweryddon wyt a'u priodles
A ffenestr wydrin nef a'i phennes,
A mam i Dduw in ymoddíwes,
A merch i'th un-brawd briffawd broffes,
A chwaer i'th un-Mab wyd, a chares
Ys agos, o beth, dywysoges,
Y deiryd dy fab it, nid eres?
Ys da dorllwyth fu ystad iarlles,
Fy enaid yw'r angel anfones
Yr Ysbryd atad, gennad gynnes;
Y fo â chwe-gair a'th feichioges;
Duw o fewn aeth yn dy fynwes,
Mal yr a drwy'r gwydr terydr tes
Megís bagad o rad rodres.

Tair cneuen wisgi, tri y troes,—
Yn Dad, trwy gariad y rhagores,