Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yn Fab rwydd arab araf cynnes,
Yn Ysbryd glendid glân ymoddiwes.

Gwedi geni y Mab, gwn y digones,
Diareb rhwydded a dieres,
Heb poen yn esgor Por perffeithles,
Heb friw o'i arwain, nef briores,
Heb ddim godineb i neb o nes,
Neu ogan o wr, nid oedd neges;
Ef a orug, nef faerdref fawrdres,
Ef a orug uffern, nef gair cyffes.

Seren gron gyson a ymddanghoses
I'r tri brenin gwyn, hyn fu'r hanes—
I ddwyn rhwydd gyflwyn it rhag afles,—
Aur a thus a myrr. Ni syr santes;
Sioseb o'r preseb, gwir fu'r proffes,
Cof ydyw cennyt, a'i cyfodes;
Ieuan Fedyddiwr, gŵr a'n gwares,
Tad bedydd dibech, trech y troches
Yn nwfr Eurdonnen, yno y nofies.
Cref y megaist ef, megis duwies.
Ar dy fron hygn, fry-frenhines,
Oddí yno y buost yn ddewines.
Ti a ffoaist ag Ef tu ag Aiffes;
I'r Aifft rhag angraifft a rhag angres,
Rhyfedd fu'r gallu, fawr gyfeilles.

Ymddwyn yn forwyn, Fair arglwyddes,
Morwyn cyn ymddwyn, Fair fynaches,
Morwyn yn ymddwyn, gorllwyn geirlles,
Morwynaidd eto a meiriones.

Byw ydwyd yn nef, fal abades,
Yn dy gorffolaeth, hoew gorff haules,
Gyda'r gwr Brawdwr a'th briodes,
A theilwng a iawn i'th etholes,
Iddo i'w lywio, yn gywelyes.