Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Iolo Goch.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXIX. MARWNAD TUDUR FYCHAN.

CLYWAIS ddoe i'm clust ddehau,
Canu corn cyfeiliorn cau;
Ië, Dduw! a'i wedd ddiorn
Pa beth yw y gyfriw gorn?

"Galargyrn mychdeyrn Mon,"—
Gogleisiwyd beirdd gwag loesion.
Pa dwrw yw hwn, gwn gan och?
Pa ymffust i'm clust mal cloch?

"Marw,—y chwedl,—pencenedl doeth
Tudur, arf awchddur wych-ddoeth;
Ni fwrniwn ddim o'i farwnad,
Fychan, marchog midlan mad.
Chwerw iawn yw gennym, a chwyrn,
Cytgerdd rhwng clych ag utcyrn.

Pa weiddi! Pwy a wyddiad,
Yw hwn a glywn i'n gwlad?

"Ubain, a llefain a llid
Am y gwr mwya gerid,—
Calon pawb, nis coeliwn pwy,
Calon doethion Tindaethwy.
Llygrwyd Môn, myn llaw Egryn,
Llygrwyd oll lle goreu dyn;
Llygrwyd Cymru, gwedi gwart,—
Llithriced pobl llwyth Rhicart.
Dwyn llew bryn, byrddau dan llaw,
Dadwreiddiwyd i dy drwyddaw.
Dygn ymchwel, dwyn hoedl hardd,
Dygn waith dwyn brawd-faeth brud-fardd.
Wyr Rhirid Lwyd, euraid lwyth,
Flaidd ddifileindraidd flaendrwyth;