IOLO GOCH.
AB oedd Iolo Goch i Ithel Goch
ab Cynwrig o Lechryd yn y sir
elwir yn awr yn sir Ddinbych.
Yn 1334 yn ol "Archwiliad
Dinbych," cawn fod Ithel Goch
yn perthyn i wely Goronwy
Fychan—ac y rhennid Llechryd
yn dri gwely. Hefyd cawn ei fod yn talu chwe
swllt ac wyth geiniog o rent am "ran o dir
Iocyn Bach," oedd wedi ei golli i'r arglwydd
oherwydd "diffyg ardreth a diffyg ebediw."
Ei fam oedd Marged, gorwyres i Ednyfed
Fychan. Nid oes rith o le i gredu nodiad
Gruffudd Hiraethog—os efe ysgrifennodd y
nodyn ar yr achres—taw "fferod wraig Iarll
Lincoln" oedd ei fam. Rhoddir dau Iolo Goch
ar yr achres hon. I'r ail Iolo, mab y iarlles, y
mae plant. Ni roddir disgynyddion i Iolo y
bardd ar yr un achres. Hefyd efe oedd yr
hynaf o blant Ithel yn ol yr achresi; gesyd
Gruffudd Iolo yn fab hynaf, a Iolo mab y iarlles
yn bedwerydd. Y mae y ffaith fod Iolo yn hawlio.
perthynas a disgynyddion ereill Ednyfed.
Fychan yn brawf ychwanegol i ameu dilysrwydd chwedl Gruffudd Hiraethog.