XXXII. HERDSIN HOGL.[1]
ITHEL DDU i'th alw yddwyf,
Athrodwr beirdd, uthr ydwyf.
Athro'r gerdd i'th roir ar gant,
Etholwalch beirdd i'th alwant.
A thra da wyd, ni thry dyn,
A theuluwr iaith Leyn.
Erchaist i fardd orchest fawr,
Arch afraid cyn eiry Chwefrawr,
Goffhau giau ffiaidd
Gychwraig ddaneddwraig haidd—
Herstin Hogl a'r arogl oer,
Henllodr figyn-bodr garn-boer.
Mae'n i hun, nid mwyn i haint,
Du daerwrach dew i derwraint;
Mahelldyn, gefryn heb gig,
Main groen neidr, min grynedeg.
Merch rwsel hen sorel soeg,
Gwrach fresychgach frau sechgoeg
Rhaid i'n hyn gadw had,
I furnio iddi farwnad.
Paham, Ithel, ddinam Ddu,
O ba raid iddi brydu?
Fy enaid, im na ddanfonud,
Fesur i throed, fos rhwth ddrud;
Tra fae'r esgyrn, cyrn carn ffoll,
A giau du i gyd oll.
Nid hawdd cael gwawd barawd bur,
Yn absen gwilff wynebsur.
Gwnawn yn hoff i dydd coffa,
Pes gwelswn a phwn o ffa.
Minnau y sydd, mein was wyf,
Moli gellast fel y gallwyf.
- ↑ Herstin (pen ôl), fel sydd yng nghorff y gerdd, sy'n gywir