Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac anian ledir fel un deml o wawl
A'i phorthor-Haul bob borau
Fry egyr ei rhagddorau
I fyrddiwn o allorau
Oleuo'r nef â mawl.

A Chariad gasgla 'nghyd
Y bydoedd am ei fraich,
A thrwy ei awyr nofia'r byd
Fel seren lon ddi-faich;
A'i fryniog lwyth orffwysa ar ei fron
Yn ysgafn fel y gwawl,
Tra chwydda o bawl i bawl
Anfeidrol anthem fawl
Fel byd-orchuddiawl don.

Disgynna'r saint i lawr
Hyd ysgol fawr y ser,
A chwmwl tanbaid wawr
Yn huddo o gylch eu henaid ter,
I bêr fyfyrio ennyd ar eu bedd,
A meddwl am yr awr,
Pan yn y glyn di-wawr
Dadienna'r Duwdod mawr
Haul ei wedd.

Pan am-oleuir eigion du y bedd
A nef o farnol dân,
I dderbyn i'w ddyfnderoedd erfawr sedd
Pryniawdwr bywyd a'i osgorddion glân;
A phan y troir yr angeuol byrth
Yn wawl-bileri mawr
I'r engyl yn eu gwawr,
Fyrdd myrddiwn, dremio i lawr,
Ar y wyrth,—