Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MYDDFAI

GORFFWYSA di, fy nghyfaill. Y mae bedd
Yn well na bywyd, nad yw drwyddo oll
Ond delw o angau ar symudol ffurf.
Yr wyf yn aml, wrth edrych ar y fynwent,
Yn eiddigeddu fod fy ngheraint hoff,
Hunasant yn yr Iesu o fy mlaen,
Mor dawel a digyffro ym mreichiau hedd,
A minnau fyth yn crynnu ar y donn,
Tonn amser, gedwir mewn cyffroad llawn
Hyd fore'r Farn, pan sudda'n ol i'r dwfn,
Môr tragwyddoldeb, a'i holl gynnwrf drosodd.

Mai 16, 1854.

A GREULAWN FEDD

A GREULAWN Fedd! Er bod cyhyd
I'm gweddi 'n fyddar ac yn fud,
Cei wrando ac agor, a rhoi o'th gêl
Yr anghydmarol berl yn ol.


AR GEFNFOR AMSER

AR gefnfor amser; o mor fin,
Y'n dryllir fyth gan nerth y don,
Dan bruddaidd nos a thywell hin,
Fel môr, aflonydd yw y fron;
Ond mae golygfa well gerllaw,
O mae yr hin yn dawel draw.