Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

LLUOEDD Y STORM

YMLAEN cyflyma, a'i llengoedd ar ei hol,
Yn dryllio 'r bryniau oedrannus tlawd, y gwyntoedd ffol!
Cedyrn yr wybren, engyrth arfog lu,—
Ni welodd dyn erioed eu gwersyll cadarn fry,
Nac ar y cwmwl draw eu cysgod hy.
Eto ofnadwy ydynt, a nerthol yw eu llef,
Fel adlais mil o reieidr yn y nef;
A phan y bloeddiant o'r cymylau draw,
Ymgrynna'r bryniau beilch yn ufudd ar bob llaw.

MYNWENT YSTORMUS

NI welwyd maen ar fynwent fawr y don
Er amled yw y beddau yn ei bron;
Mynwent ystormus, tebyg i fywyd, ydyw hon.


Y BLANED GOLL

AH! Dylai'r Nefoedd grynnu pan fo'r haul
Yn machlud i ddiddymdra, a gorseddfainc
Ymhlith y ser yn wag; a phan fo planed
Yn taflu ymaith ei modrwyon gwawl
Gan gydio yn un o welwon lampau angau,
Hwnt oddiar oriel bellaf olaf amser,
I chwilio mewn distawrwydd am ei bedd;
Heb adael onid gwagle erchyll tlawd
Diffeithwch mawr awyrol yn y nef
I gadw ei choffadwriaeth, ac anadlu
Ei henw mewn tymhestloedd geirwon mwy.