Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MACHLUD HAUL

AGORA y Gorllewin deg ei breichiau
Draw i gofleidio'r Huan ruddwawr aeliau;
A dyd y cawr, -y cawr sy'n tramwy'r nefoedd,
A thân ei lygad yn goleuo'r bydoedd,—
I ddiddig orffwys ar ei phorffor fronnau,
Y teyrn sy'n dringo bythol uchelderau
Mynyddoedd beilch y dwyr a thyle'rnef bob borau,
Nes cyrraedd entrych canol dydd, brig y nwyfreol Alpau,—
Y Llewin deg dry oll yn wrid i'w ddenu
I'w thawel gysgodfeydd, a themtia'r nef i garu;
A swynion trymder cloa 'i aeliau obry,
Tra bydoedd dorf o'i amgylch yn tywyllu.

ARCHANGYLION

YR Hwn sy'n edrych ar ei uchaf radd
O Harchangylion, pan ymgrymont,—ail
Coedwig o anfarwoldeb wrth ei draed
Ar ostyngeiddiaf drefn, addfwyn wedd.


ALARWR ATHRIST

ALARWR athrist! Rhwng y beddau,
Paham y crwydri'n wyw dy wedd?
Deffroed dy wên, a sych dy ddagrau,
Bu'r Prynnwr,—Duw ei hun,—mewn bedd;
A daeth i'r lan o'r ogof brudd
Gan lanw'r fan â thanbaid ddydd.