Meddiannant hwy ddylanwad a llywodraeth
Fel holl genhadau lor.
Nid ofer oedd
Apwyntio y breswylfa ar ael y bryn,
Lle'r oedd y cyntaf peth a welai 'r llanc
Yn uchel ac yn enbyd ac yn fawr,
Ymhell uwchlaw y byd. Aml for o niwl
A welai yn ymlanw ar y gwynt,
Rhyw awyr draeth symudol. Ac ni chaed
Ond meinion uchelderau'r byd mewn golwg
Yn pwyntio i'r anfeidrol. Rhaid oedd troi
Ei lygaid ar y nef, a dechreu darllen
Ei haraul ysgrythyrau hi.
Aml awr
O ddyfnder maith y nos gipiasai ef
I wrando ar y dymest1 fawr yn disgyn
O'r nefoedd ar y bryniau, nes rhyddhau
Mewn-foroedd natur, adnewyddu nerth
Aml nant luddedig ar ei garwaf daith
O graig i graig.
Mellt! Mellt! A thoent hwy
Y byd am eiliad fel ag aden Duw,
A chrynnai 'r nef, a chrynnai'r bryniau oll.
A phrin na safai 'r galon, na chyfodai
Distawrwydd bedd o gylch yr enaid tra
Disgwyliai am y daran. Fel pe bai
Cronfaoedd engyrth y tragwyddol lid
Yn ffrwydro ar y nefoedd oll ar unwaith;
Neu fel pe byddai Duw yn torri trwy
Ei holl weithredoedd, ac yn galw'r byd
A'i lais ei hun i gredu neu i farw,
Diluwiai 'r nefoedd a'i byd-foddawl dwrf.
Cyffelyb swn wna yr Anfeidrol pan
Yn galw tragwyddoldeb i ddeffroi.
Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/110
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon