Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DAETH Y PRUDD

A PHAN y deuai rhyw alarus sain,
Rhyw lef o wae o fynwes oer y gwynt,
Wrth dramwy bryniog arfyd y cymylau,
A sefyll weithiau mewn petrusder dan
Glogwyni sydyn o sylweddol wyll,
Bryd hyn agorid yn ei enaid ddôr |
Ar newydd ddyfnder o deimladau,—daeth
Y Prudd i'r wyneb, ac arhosodd mwy.
A phan y codai, brysiai hyd y bryn
Gan rifo'r nentydd ffroch, a syllu dros
Y graig ysgydwol ar y bryn lifeiriaint
Yn rhuo'n orfawreddus, fel pe bai
Y môr i gyd yn dilyn. Llawer tro
Y rhodiai hyd y llymaf gaer o fannau,
Gan droi ei wyneb tua'r gwynt ac yfed
Y nefoedd hyd ei enaid, a phendroni
Ar fawredd ac ardduniant.

Ai di-fudd,
Di-effaith caed y golygfaoedd hynny,
A'r bore fyfyrdodau?
Oni ymledodd
Yr enaid oll yn ol y ffurfiau hyn,
Fel y cynlluniau pennaf ac agosaf
O waith y llaw dragwyddol?

Aeth y dyn
I mewn i dyrfau bywyd, a'i hynodrwydd
Yn tynnu sylw'r myrdd. Ymgodi caed
Ei holl gymeriad oddiar y byd
Ar fryniog ac ar uchelgeisiol drefn, nes dod
Yn fawredd ac yn gysgod, a thorfeydd
Yn caffael ynddo a hir ddisgwyliasent;