Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac aml un, oddiar ei bell feddyliau,
Fel enaid ar glogwyni, yn y blaen
Yn edrych ar ryw newydd wawr o amser
A newydd drefn ar y byd ; tra swn,
Fel awel hedd-broffwydol am ei bell
Glogwynol ddychymygion yn ymdroi
Yr uchder yn y byd eneidiol lle
Cyffyrdda y dyfodol â'r meddyliau,
Fel ysgafn haen a nefoleiddiaf niwl.

Ymgwyd y bryniau yn ei enaid ef
Fel cedyrn deyrn-adgofion gorseddedig
Ar sailwaith dyfna'r enaid. A phob meddwl,
Pan gyfyd yn afluniaidd ac yn wag
O'r enaid-dryblith mewnol lle y mae
Elfennau tragwyddoldeb yn dihuno,
Cydnebydd eu hawdurdod, a chymerant
Ffordd fawr y pell, y beiddgar, a'r diderfyn.