Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TRAGWYDDOL A DIDERFYN

TRAGWYDDOL a diderfyn yw y cwbl.
Y greadigaeth, onid dringfa yw
Hyd orsedd yr Anfeidrol? Mae y bryniau
Yn cydio yn y ddaear, a'r nefolion
Awyrol eangderau ynddynt hwy;
A seren fel arwain-lamp yma a thraw
Ar hyd yr uchelderau, nes ein dod
I olwg y Tragwyddol, lle y mae
Tragwyddoldebau ddigon i'n hargymell
Fyth yn y blaen. Pa le y ceir a ddyd
Gylch am un meddwl a digwyddiad? Pwy
Ddwed wrth un weithred byth,—"Hyd
yma'r ei,
Ac yma saif dy ganlyniadau di?"
Cyflawna weithred. Ah! Cyffyrddaist, ddyn,
A chyfres o olwynion tragwyddoldeb,
A gwae y llaw a faidd eu cyffwrdd hwy
Gan geisio troi'r tragwyddol yn eì ol.
Tonn yw pob gweithred, a dramwya hyd
For pellaf a distawaf tragwyddoldeb,
Trwy holl ystormydd anherfynol fod.
 phwy a eilw'r bedd yn derfyn bywyd?
Ing angau sydd yn deffro dyn o gwsg
Marwoldeb a'i freuddwydion am y ser.
Ohonot ti, O ddyn, mae tragwyddoldeb
Yn tynnu ei ddiderfyn bethau oll.
Ti godaist ddoe, o ddyfnder tywyll amser,
Sail llawer mur tragwyddol o dynghedion
A fydd yn fyth—ddyrchafol araul rodfa
Yn y dwyfol—ddydd mawr.