Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YNNOM MAE Y SER

PHWY a ddywed fod yr enaid fyth
Yn cyfeiliorni pan ymgwyd uwchlaw
Holl brofiad dyn, o'r cawell hyd y bedd,
Gan sisial pethau anrhaethadwy, ymbellhau
Fel seren i'r tragwyddol? Onid oes
Gan enaid hanes ynddo 'i hun, rhyw drai
O dywyll bethau'n murmur o'r tu ol
Ar draethydd pellaf adgof, traethydd lle
Y collwyd adgof gydag engyrth ddrylliau
Rhyw fyd neu fydoedd?

A yw'r ser uwchben
Mor ddwyfol ac ardderchog ag y myn
Barddoniaeth ganu? Onid mewnol swyn,
Adgofion am ddwyfoldeb golygfeydd,
A phethau yn disgleirio oll gan Dduw,
Sy'n rhoddi iddynt hwy eu hysbryd-nerth
A'u harucheledd?
Ynnom mae y ser
A phob barddoniaeth. Onid adgof yw
O rywbeth mwy a fu, neu ragwelediad
O rywbeth mwy i ddyfod? Pwy nad yw
Yn teimlo weithiau fel pe byddai byd,
Hir anghofiedig, trwy ryw ongl bell
O'i dynghed yn ehedeg, neu yn taro
Rhyw benrhyn o adgofion?

Dychymygion,
Pwy ddywed nad gweddillion bywyd uwch,
Mil ardderchocach ynt, yn nyfnaf for
Yr enaid mawr yn gorwedd nes y del
Holl-chwiliol anadl barddoniaeth heibio?