Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dysbleiniol arwedd ei hafonydd, chwyf
Tragwyddol Libanus, a'i fôr-fawr dwrw,
A ffrydiol lawnder ei ddyffrynnoedd hedd,
Pell arfeiddioldeb ei mynyddoedd, oll
Ym ddamblygedig yng nghreadau derch
Yr Awen fawr Hebreig?

Nefol wlad,
Lle bu yr awen beraidd oesoedd gynt
Yn canu fel ei dysgid hi gan Dduw
Ar Seion bêr a Charmel, ac ar hyd
Aneirif fannau a ddyddhaid gan
Angylion lawer canol nos, pan ar
Eu hymweliadau hedd, pan ddygid iddi
Gainc newydd o'r dragwyddol dôn ; lle caed
Meddyliau yr Anfeidrol yn ymddangos
Yn ddwys, mawreddog, anherfynol, fel
Barddoniaeth tragwyddoldeb. Lle y bu
Mawreddog oruchwyliaeth y cysgodau
Yn gorffwys lawer oes ar fynwes ffydd
Fel breuddwyd fawr o'r nefoedd,
Breuddwyd fawr
Am Dduw dod yn neshau, neshau, ac am
Fro burach a Chaersalem fwy na hon,
Nes iddi ddeffro gyda'i Duw ar wawr
Y trydydd dydd, a chael yr oll yn wir.
Yr oruchwyliaeth lle y syllai 'r byd
Am ryfedd wedd a dull dyfodiad Ior
Oes ar ol oes, nes iddo rodio i maes
O'r darlun ac ymddangos yn y cnawd, -
Ysblenydd oruchwyliaeth! barddol wedd
Anfeidrol gynllun gras, ar hyd yr hon
Y gorfoleddai beirddion Duw,-barddoniaeth
Y mawr wirionedd am achubiaeth dyn.