Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

NEFOL WLAD

NEFOL wlad
Y bu angylion yn ei garddu, y bu
Jehovah ei hun yn gwylio drosti fel
Ei unig winllan dan y ser ; y fro
A wynnid â sancteiddrwydd nefol, sun
Dwyfolaidd yn ei ffrydiau, a'i hawelon
I gyd yn sanctaidd gan yr adsain bell
O'r tragwyddolion leisiau, lle y caed
Ephrata a Jerusalem. Y wlad
Y plethwyd ei holewydd â breuddwydion
Boreaf, ardderchocaf ffydd. Y wlad
Y gwelwyd Duw yn rhodio yn y cnawd
Ar agwedd gwas. Y wlad a ddug
Gysgodion Carmel ar ei mynwes gain,
A Basan y gwrdd deirw, wedi hyn
A amgylchasant Ior ei hun mewn cnawd,
A Thabor bell, a mynydd Duw ei hun,
Eisteddfa'r brenin mawr. A phwy ni chlyw
Y dymhestl hollalluog, swn hir llawn
Y gwynt wybrenfawr, pan daranont hwy
Eu pell fygythion' o fynyddoedd Ior?
Dedfrydent genhedlaethau oddiar
Faith wyneb amser, fel y gwnai y storm
Gynifer o niwl-wledydd. Ynddi hi
Ei holl ddysgubawl wynt, a'r geirwon greig,
A'r byd orhongiol fryniau, cawsant hwy
Y prif feddyliau, gaed yn eistedd mwy
Fel duwiau oll-lywyddol oddiar
Greadau'r enaid oll.