Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cerbydau di-olwynion, erfawr daen
O laddedigion barn. Golygfa fawr
Y Duw-ddisgyniad ar y mynydd gynt,
Pan ruai'r daran yn ei phriod rwysg
O enau lor ei hun, a Sinai oll
Yn mygu fel pe caid ei greigiau i gyd
Ar dân tragwyddol dan gyffyrddiad Duw.

Caed yr adgofion cysegredig hyn
A'r mawrwych olygfeydd, am oesoedd fil,
Yn ail ymddangos a newyddaf wawr
Ar alwad y broffwydol awen, pan
Y mynnai hi egluro gallu Duw.
Duw Israel a'i Hachubydd. Fel y gwnaeth
I Pharaoh a'i gerbydau wrth y môr,
Pan syrthiai'r gorddyfnderau arnynt hwy;
Ac i frenhinoedd yr Amoriaid gynt,
Y gwna efe i Babilonia mwy,
Philistia hefyd.
Syllent hwy yn ol,
Beirdd Israel, trwy lawer oes o waed,
Hyd fore 'u gwyrthiol hanesyddiaeth, hyd
Bell fuddugoliaeth Rephidim, lle caent
Eu cynllun cyntaf o ryfelawg lwydd,
Tyrfaoedd Amalec yn syrthio o flaen
Oshea ieuanc a'i ddewisol wyr.
Fe gerddodd yr olygfa hon i fyny
O fae- y gwaed, a'i mawreddogrwydd oll
Am dani; Moses fawr ar ben y bryn
Ali law ar bethau uwch na'r haul, hi gerddodd
I mewn i bellaf dragwyddoldeb cof,
Gan ado 'i gwawr ar bob cyfryngol oes,
Pob awenyddol ddarlun.