Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CLYWAF LAIS BRENHINFARDD ISRAEL

OESAU i lawr
Ar dymestl-lethrau amser, gyda si
Byrlymion per Siloa, awel ber
Gwynfaol lethrau Seion, clywaf lais
Brenhinfardd Israel y chwyddai'i dôn
Ar lawer cylch nefolaidd oddiar
Ephrata gynt, bêr ddolydd, tua'r ser;
Ac wedi esgyn i'r orseddfainc, fu
Yn troi pwysicaf ragluniaethau Duw
Yn hedd ganiadau, hedd beroriaeth rhwng
Yr enaid a'r Anfeidrol; a arweiniodd
Feddyliau aruthr o ddyfnderau'r môr.
Gan dywallt dwyfol wawl barddoniaeth ar
Holl bererindod Israel, a gwneyd
Yr anial llwm yn brif o erddi'r byd,
Yn Eden i athrylith, gan mor aml
A gorfawreddog yma a thraw y caed
Fforestydd y meddyliau blannai ef
A'r hyd-ddo, a'u tragwyddol wawr y sydd
Yn amrywiaethu yr olygfa lom,
A'u pell gysgodau'n disgyn gyda mwyn
Lonyddol effaith ar yr enaid blin;
Efe na allai gorsedd, teyrnas, byd
Lle uchaf cwyd ei fawredd, redeg rhwyg
Ei enaid a'r farddonol nefol nwyf,
Na ffurfio cysgod rhyngddo ef a hi,—
Yr Awen, a garasai pan nad oedd
Dim ganddo i'w hynodi ond ei gân
A'i ffon fugeiliol, oddieithr rhyw
Gynhyrfiad anhraethadwy ambell dro
Pan godai seren ei dynghedion, fel
Goleuni ardderchocaf freuddwyd, hwnt