I bellaf orwel ei ddychymyg fawr
A mil o filoedd yn ymgrymu o'i blaen,
A'i goleu yn llifeirio oddiar
Niwl fryniau olaf amser; pan y gwelai,
Y gwelai trwy ei enaid, yn y pell
Anfeidrol rodau, seren ei Olynydd
Yn syllu tua ffordd Ephrata bêr.
Profiadau geirwon ei hynafiaid gawn
Yn brynio ei farddoniaeth, a digwyddion
Eu haruthr hanesyddiaeth ger ein bron
Fyth yn ymadnewyddu, fyth yn gwawrio
Dros ryw fynyddoedd o feddyliau derch
Fyth godant ym mhell fyd ei Awen ef.
A phan y soniai am gadernid braich
Ior Israel, a phan y mynnai i'r byd
Addoli wrth ei enw, yn y fan
Y mae ei lais yn ymgymysgu a thwrf
Pell for yr Aifft,—Beth ddarfu i ti, o for,
Pan giliaist? Pam y ciliai'th donnau'n ol
Fel gwynion ddefaid i fynyddau'r nef?"
Dros bob darluniad o fawrhydri Duw
Baalsephon hongiai, a'r mawreddog hollt
A ruai trwy y môr o lan i lan.
O rwyg adfeilion caerau Soan, rhwng
Gorhongiol furiau y caredig for,
Y codai ef ei fryn-feddyliau am
Fawrhydri Ior, rhwysg ei dragwyddol fraich,
Jehovah eu hachubwr hwy, yr hwn
A wnelai bethau mawrion yn yr Aifft,
A phethau rhyfedd yn nhir Ham; ofnadwy,
Ofnadwy bethau wrth y môr.
Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/121
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon