Prawfddarllenwyd y dudalen hon
MAE DEIGRYN AR Y RHOSYN HARDD.
MAE deigryn ar y rhosyn hardd,
Mae'r gwlith yn wylo ar y lili;
A'r awel oeraf dery'r ardd,
A chwyth ei hanadl wywdra drwyddi;
Ac nid y bardd yn unig sydd
Yn wylo dan drallodau prudd.
Mae Natur deg yn colli ei gwrid,
A'i rhos i gyd yn marw;
Dynoethir hi o'i gwisgoedd haf,
A'i blodau gaf yn welw;
Ac O, paham na chollwn i
Aml rosyn hawddgar gyda hi?
Y mae fy mlodyn yn y bedd,
A'i wedd yn isel heno;
Ond pam yr wylaf ar ei ol ?
Mae blodau'r ddôl yn wylo ;
A throir yr ardd bob gauaf blin
Yn fynwent oer i'w rhos ei hun.
Mai, 1854.