Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWEL, UWCHLAW CYMYLAU AMSER

GWEL, uwchlaw cymylau amser,
O fy enaid, gwel y tir;
Lle mae'r awel fyth yn dyner,
Lle mae'r wybren fyth yn glir;
Hapus dyrfa,
Sydd yn nofio yn ei hedd.

Gwel a chred. Mae yna drigfan,
Oes, a choron deg, i ti ;
Golud hon ni threulir allan,
Gwel a chais ei golud hi ;
A deilyngwyd
Yn yr ardd drwy iawnol chwys.

Ynddi tardd ffynhonnau bywyd,
Trwyddi rhed afonydd hedd
I ddyfrhau ei broydd hyfryd,
Ac i anfarwoli 'i gwedd ;
Iachawdwriaeth
Ar ei glan anadlir mwy.

Saethau'r bedd nid allant esgyn
I'w hagosaf dalaeth hi;
Ac ni faidd y marwol elyn
Sangu ar ei rhandir fry;
Angau yno?
Cartref anfarwoldeb yw.

Troir awelon glyn marwolaeth
Oll yn hedd tu yma i'r fan,
Try holl ocheneidiau hiraeth
Yn anthemau ar y lan ;
Syrth y deigryn
Olaf i'r Iorddonen ddu.