Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MATILDA.

BABAN DEWI WYN O ESYLLT; AR EI GAIS.

DDISTAW fro diddymdra cu
Pam daethost ti, Matilda dlos?
O dwed paham, i'n daear ni;
Yn ol, Matilda, dos.
Ond pwy a'th arwain yno mwy?
Ni chlywaf ond yr adsain,—Pwy?

Y ddaear hon, bro trallod yw,
A throsti chwyth ystormydd hy;
I'r bedd gogwydda'i blodau 'n wyw,
Aml flodyn hawddgar fel tydi:
Ond dysg ar dawel ddull i ddwyn
Pob a wel oer, Matilda fwyn.

O edrych tua'r fynwent draw,
Mae mlodau i yn gwywo yno;
O edrych ar y bedd gerllaw,
Matilda, mae fy nghalon ynddo,
Yn ddrylliau ynddo, ac nid oes
A'i rhwyma 'nghyd ond balm y groes.

Ac O, i fyny edrych di,
I fyny tua broydd hedd;
Ah! Nid oes yno siomiant du,
Matilda, nid oes yno fedd;
Ac yno nid oes athrist gŵyn
I'w glywed fyth, Matilda fwyn.