Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I GYFEILLES HOFF.

EDRYCHAIS tua'r nefoedd fry
Y neithwyr yn wylo
Ac i ba le 'r edrychaf fi,
I ble ond tuag yno?
Yr wyf yn hoffi edrych fry,
Mae yno obaith, oes, i mi.

Gyfeilles hoff, a'i tebyg fod
Hapusach byd na hwn?
Uwchlaw yr haul a'i uchel rod,
Mae byd hapusach, gwn.
Gyfeilles hawddgar, awn ynghyd,
Dan ganu, tua'r hapus fyd.

O pwy, o'i farwol yrfa'n flin,
Na fynnai yno fyw!
Mae uwch y ser,—ac un
O'r ser, feallai yw;
Y seren decaf, loewaf fry,
Ar honno neithwyr tremiwn i.

Fy chwaer! canfyddwn hi
Yn deg fel gwen ei Duw;
"A gaf, of enaid," holwn i,
"O f'enaid, yno fyw?"
O cawn, fy chwaer, ac awn ynghyd,
Dan ganu, tua'r hapus fyd.

Mai 26, 1854.