Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CEISIO GLOEWACH NEN

(Dyma enw un o ganiadau ceinaf Islwyn. Ceir hi yn y Gwaith, fel rhan o'r "Storm," tud. 52. Wele ddau bennill eto ohoni, y ddau bennill olaf, na chyhoeddwyd o'r blaen.)

RHWNG bydoedd fyrdd y nefoedd dlos,
Mawreddau i hymerodraeth fawr,
Tramwya eangderau'r nos
A chwmwl ar ei gwawr.
Ah! Nid oes ar orseddfainc hedd i'r fron,
Ac nid ar orsedd y mae bod yn llon.
Fry yn ei gwae,
Ar orsedd wen,
Hiraethu mae
Am loewach nen.

Siomedig yw. Ond nid y hi
Yn unig yn siomedig sy;
Gŵyr ereill am wywedig wedd,
Mae gobaith ereill yn y bedd.
A gwaith aml un, siomedig Loer,
Yw crwydro rhwng y beddau oer;
Ac ymgysuro ar y dywell hynt
Ym malmaidd gofion yr amseroedd gynt;
Ac wrth y galon brudd
Ymddiddan am y dydd
Y cawn eu cyfarch ar orseddfa wen,
Mewn gloewach nen.