Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

WYT YN DAWEL

HENO mynnwn am ennyd
Ymryddhau o boenau'r byd;
A neshau, yng nghwmni'r ser,
O dan ffurfafen dyner,
Tua'i hunig unig annedd,
A gorffwys ar bwys ei bedd.

Anwyled, mwyned i mi,
Yr annedd lle yr huni!
Fy morau olau helynt,
Felusion adgofion gynt!

Wyt yn dawel tan dywod,
Gwiwfan i flinedig fod;
Minnau yno, 'mhen ennyd,
Fêl hun gaf, wyf flin i gyd.

EI WELED FEL Y MAE

ANGYLION uwch y ser,
Beth yw eich nefoedd chwi?
Pa beth yw swyn eich anthem bêr,
Beth eich ardderchog fri?
Golygfa dawel ar ei wedd,
Ah! Dyna 'u nefoedd, dyna'u hedd.

Ei weled fel y mae,
Gweld sylwedd nefoedd yw;
Pa beth yw siomiant, beth yw gwae,
Ond absenoldeb Duw?
Cawn nofio ar fôr o hedd di-drai,
Fyth wrth ei weled fel y mae.

Gorffennaf, 1854.