Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MAE SEREN LAWN

MAE seren lawn goruwch dy fedd,
Y seren fore lon;
A gwynfa lawn o hedd
Nawf amgylch ogylch hon;
Hi gyfyd, cyfyd yn y man,
A daw y bedd, y bedd i'r lan.

Bydd dawel yna, fwynaf un;
Cwyd oddiar y bedd bob awr
Bêr arogl darth o fwynaf rin
Nes swyno 'r nef yn nes i lawr;
Ac ymyl yr anfarwol ddydd
Oleua fin dy feddrod prudd.

Ym mhell o fewn dy fedd,
O fewn y gwagle oer,
Canfyddaf flaen o ddwyfol hedd
Fel penrhyn lloer;
A goleu o'r baradwys bell
Yn ffrydio dros yr uchder gwell.

Gadawyd, hwyr o haf,
Awelig uwch y fan;
Ac yno fyth y caf
Ei hadsain wan;
O fore dedwydd, pan y daw
Yr oll i'r lan,—
Y galon hon, a'r awel wan,
A'th ffurf tegeiddiaf, oll i'r lan.

Mehefin, 1856.