Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFIADWY DDYDD


COFIADWY ddydd, caf dy ddwyn
O huddfa adgof addfwyn
I fyny ar fy enaid,
Adfer ei bereidd-der raid ;
Anwylion yr hen helynt,
A'r cofion tegeiddion gynt.


Dwyn yr awr, a'th dyner eiriau,—yn ol,
A'th anwylion wenau;
O, beraidd waith y borau,
A lliw nos i'm llawenhau.

A galw yn ol o'r glyn eilwaith—ingion
Dy ddiangol artaith,
Anadliad dymuniad maith
A'th dremiad wrth droi ymaith.

Y law wan o liw enaid,—ei chwyfiad,
A'i huchafol amnaid ;
Gwedi hir oes, ysgwyd raid
Ei llun a hedd ei llonnaid.

Dwyn i gof Eden gyfan,—dychwelyd,
O, a chwilio allan
Bob gwawrddydd bellddydd a ban
Dorrai ar fy myd eirian.


Pan ddyrch ehedgyrch adgof,
Pan y cwyd copaon cof
Goruwch y byd ac erch bau
A holl fur engur angau,
O'r mwynaf wawr am unwaith
A dyrr ar ddyfnder y daith!

Mehefin 26, 1856.