Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GLAN EBBWY

Ysgrifennodd Islwyn at J. Rosser ar ddydd Llun y bore," Gorffennaf 17, 1854 fel hyn,—"Yr wyf yn myned i fyny yn awr i Ben y Cae i ddodi marwol weddillion Glan Ebbwy yn y bedd. I ddodi y pwrcas i lawr,—mae wedi ei brynu, rwy'n credu. Fe'i rhyddheir 'fore prynedigaeth y corff.' Hapus fore! Fe ryddheir llawer pwrcas y bore hwnnw."

I.

GORFFWYSA, di! Rwyf finnau yn flinedig,
Ac am yr un orffwysfa yn dyheu.

II.

Camsyniaist, auaf angau, 'th dymor yma,
Haf oedd i ddod ar ol fath wanwyn îr.
Ond yn y nef yr oedd dy haf di i ddechreu;
A byrr fu'r gauaf, aeth heibio ag un ystorm.
Mae'n dawel bythoedd draw. Ond O, i ni
Mor wyw, ac mor ddiflodau, yw'r olygfa
Lle taenai gwyrddni mil o riniau gynt,
Sahara lle bu Eden aml ei rhos.

III.

"Dedwydd fydd tragwyddol orffwys"
Oedd dy eiriau yn y glyn;
Heddyw, yn y deg baradwys,
Teimli y dedwyddyd hyn;
Ie, dedwydd gorffwys yno,
Mwyn ymnofio mewn mwynhad,
Dedwydd gorffwys wedi blino,
Yn yr hedd-drig fannau rhad.

Gwlad uwchlaw ystormydd blinion
Yw'th breswylfa dawel mwy;
Rhued byd a'i holl awelon,
Byth ni chlywi'u rhuad hwy.