O LEIED A FEDDYLI
"Ac efe a ddaeth, ac a'u cafodd hwy yn cysgu drachefn;
canys yr oedd eu llygaid wedi trymnhau.—MATTH. xxvi. 43.
O LEIED a feddyli, Seion wiw,
Am awr a natur gweithrediadau 'th Dduw,
Y moddion, pwy a'u dywed? A'r eiliadau
Y seilir y tragwyddol ar eu dyfnion weithrediadau?
Eiliadau sydd yn rhoi rhyw newydd wedd
Ar ysbryd-fydoedd y tu draw i'r bedd ;
O fewn y rhai mae oesoedd yn ymgronni,
A mwy o Dduw i'n gwydd yn d'od, a mwy o'r pell oleuni
Nag yn holl hanes creadigaeth fawr,—
Pan roddir i'r anfeidrol ffurf, ac i'r tragwyddol wawr;
Y cymer un o'r Duw-feddyliau nerthol
Ger bron y byd y wedd o ffaith anfeidrol.
Y mae ei lwybrau Ef ym moroedd amser,
Arweinia ei feddyliau i mewn o'r dyfnder
O dan y byd, i'w cylchoedd gogoneddus
Fel ser, yn araf, distaw, gorfawreddus.
Ac nid yw neb yn sylwi. Nid oes llygad
Yn agor tua gwawrle y dwyfol ymddanghosiad.
O leied wyddom pan fo'r byd a'i oesoedd
Yn crynnu rhwng y tragwyddolion nerthoedd.
O Amser, 'roedd cysgodion d'oesau i gyd
O fewn yr Ardd, a'u holl gasgledig lid;
Nos erfawr o euogrwydd ac o wae
O amgylch yr Anfeidrol yn ymgau.
Tynghedfen y ddynoliaeth yno gaed
Yn crynnu yn y cysgod, a dyferynau o waed
Trymach na bydoedd yn dyhidlo i lawr,
A'r dwyfol fywyd yn dyfnhau eu gwawr.