Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PAHAM Y COFIEM

PAHAM y cofiem? Onid digon yw
Dioddef siomedigaeth fel y daw
Unwaith yn ol y rhod dragwyddol? Clyw!
Y mae'r ochenaid fyth yn darstain draw,
A gwasgiad hir yr ymadawol law
Oll yn deimladwy hyd y galon heno.
O ddyn! Yr oedd llaw angau hefyd yno.

Paham y cofiem? Pam! Yr oedd y llaw
Yn crynnu gan angerddol ing i gyd,
A'r llygad tyner yn ymwylltu o fraw
Heb wybod lawer ennyd ar ba fyd
Y syllent gan wallgofrwydd, o, a llid
Marwolaeth yn heneiddio 'r wedd mewn awr,
A gwae holl hirddydd bywyd yn cyd-dywyllu'r wawr.

O angau, angau! na fuasit ti
Yn gado awr i minnau, awr o bêr
Ymddiddan am y pur obeithion fu,
Ac am y pethau oedd mewn golwg—ser
Y byd a ddaw, pell ddrych y wynfa der—
Hardd ddull y blaenaf o osgorddion Ior,
A'r awel gyntaf dros y dwyfol for.

Ebrill 4, 1856.