Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PA LE Y MAENT

PA le y maent? Wyf wedi chwilio 'r bedd,
A chonglau'r glyn. Ac o'r trigfannau hedd
Yn ol y daethum, fel y lloer
Yn gadaw bro o gymylau yn unig ac yn oer.

Pa le y maent, fy mrodyr? Ofer mwy
Rhodio o gylch y bedd, a'u galw hwy;
Maent yn rhy bell i glywed.
Tawaf fi;
Ni fynnwn i ddaearol lais gyrraedd eu mangre fry.

Nos yw. A throaf tua'r wybren bêr;
Mae'n ganol dydd ar uchelfannau'r ser,
A mil o heuliau yn gwawrio o'r pellder fry.
Tawaf, fy mrodyr. Yno 'rydych chwi.

Pererin wedi blino-wyf finnau,
A fy anian yno ;
A'm henaid yn dymuno
Yr unrhyw fraint, rhan o'r fro.

Ar eu hol trwy fawr helynt,
Tan y gwae er ton a gwynt . . .