Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MOR Y NOS

PAN y dua 'i wyneb
Yng ngwg y dymhestl gref
Ar ganol nos, a'i fynwes
Yn chwyddo tua'r nef;
Dyfnderoedd ar ddyfnderoedd
Sy'n galw, a nef ar nef
Yn ateb, a'r gwaelodion
Yn plygu i'r dymhestl gref.

O Natur, mor ardderchog
Yw iaith y dyfnfor hy,
A'i alaw mor odidog
Hyd ffordd y fellten fry;
Ai Ior ei hun sy'n tramwy
Y dyfnder gyda'i luoedd?
Ai swn ei arch ofnadwy
Sy'n rhwygo'r gorddyfnderoedd?

Dad! Yma yr edrychaf
Ar anial noeth y tonnau,
Lle mae dy lais aruchaf
Yng nghydsain byd o leisiau;
Môr, gwyntoedd, a tharanau
Anadlant gylch y byd
Ryfeddol iaith dy allu,
A gwrendy'r bryniau i gyd.

A theml eangaf natur
Gryn gan yr anthem fawr;
Ei gorchudd ser ysgydwir,
A phellaf byrth y wawr.