Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Plyg Annwfn engyrth frig ei fflamiau erch,
A noetha hi ei bronnau llawn o waed,
Llawn tân ac ysgorpionau, tua phwynt
A rhedfa tragwyddoldeb.

Aml dorf
Pan newydd dirio ar ei gwynias lann,
A theimlo beth yw enaid noeth ar dan,
A gorwedd dan y ffaglau greidiol sydd
Yn gwlawio o wybrenau dicaf Duw
Yng nghanol poethwynt stormus,—aml dorf
A welwyd ar ei bannau myglyd hi
Yn uno'u lleisiau oll i anfon gwaedd
O rybudd hyd bellenig lannau'n byd.
Mae llen a nos o feddau ar y ffordd.

Mae'r ffordd i ddistryw, fel o'r blaen, yn llefn
A theg i olwg dyn, ac oes ar oes
Yn torfu iddi, un yn gwthio 'r llall
I lawr dros ael y bedd. Ofer dweyd!
Ni fynnent gredu pe cyfodai un
Oddiwrth y meirw, oddiwrth y llu
Sy'n marw eilwaith, eilwaith yn ymdroi
Ar wely o dân, a'r cnawd-lenni o'u cylch
Yn llosgi trwyddynt, eto yn parhau
Yn gyfan ac yn anrheiddiadwy byth.
Pe codai un o'r rhain yn wyllt ei drem
O ddyfnder uffern, yn ei wisg o dân,
Yn wlyb o'r gawod ruddwawr, aruthr wedd,
A'r fflamiau yn dyferu hyd-ddo i lawr,
Gan gynneu'r creigiau'n oddaith dan ei draed,
Ni chredent hwy.