Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

FEL O'R BLAEN

FEL o'r blaen mae cenhedlaethau'r byd
Yn myned rhagddynt,—fel o'r blaen o hyd.
Y tadau'n plygu hyd y bedd, a'r plant
Yn dilyn, ar hyd oriwaered chwant
Nes syrthio a llewygu,—yna Angau
A ddaw i'w cipio yn ei eirwon freichiau
Gan ffoi a hwynt o'r golwg. O'r tu cefn
Gyrr torf i lawr—i lawr i'r bedd drachefn.
Pan fyddo chwant ar ben ei hafaidd hynt,
A'i ardd bleserau'n gwywo o dan y barnol wynt
A gauaf henaint, storm euogrwydd prudd
Yn tynnu eu dwylaw geirwon dros y grudd,
A chanlyniadau ei ynfydrwydd gau
Fel dorau pres anobaith arno'n cau,
Pan ddaw cydwybod o'i chysgodion trymion,
A'i gwisg i gyd yn ddrain a saethau llymion,
A phan ddyrchafo ei gorseddfainc gref
Fry oddiar ei holl adgofion ef.
A phan y gallai'r olwg ar ei wedd
Ddeffroi yr ieuanc, wele, dyfnaf fedd
Yn agor wrth ei draed heb dwrf, heb awel,
Ac yntau'n llithro i mewn yn dawel dawel;
A'r byd o'i ol yn tybied iddo farw
Fel storom i uchafion nef
Ar ol ei gyrfa arw.
O! Nid yw neb yn clywed engyrth waedd
Y truan pan yn deffro, a chael ei hun
Mewn fflamiau; a'i enaid tlawd
Yn noeth i'r storm, yn unig a di-nawdd
Fel tŵr ar war y mynydd, heb led llaw
O eiddew, a heb gysgod cangen mwy.