Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AI GWIR Y CWYD

AI gwir y cwyd
y Duwdod mawr
Yn ymyl dyn
Ei babell heulog wawr?


Ah! Trigodd yma pan na chaed
Ond bedd a barnau dan ei draed;
Pan na adwaenid gwawr ei wedd,
Nes dod i'r lan o'r dyfnaf fedd.

Pa fedd mor ddwfn, pa mor ddu,
A hwnnw, Ior, a'th guddiodd di?
A pham yr ofnaf? Daeth fy Mrawd
O'r beddrod dyfnaf, duaf gawd.

Ar ol ei ddwyn o'i fedydd gwaed,
A mathru angeu dan ei draed,
Daeth arno Ysbryd Duw ar goedd,
A chredodd myrdd mai'r Duwdod oedd.

Pryd yma daw ar eglur lun,
Fel Duw yn gwisgo natur dyn;
A'r byd ymgryma wrth ei draed,
I foli byth am rin ei waed.

Ei ddaear hoff, dethola hi
O blith ei fyrdd myrdd bydoedd fry;
A lle tywynno ei ddwyfol wedd,
Ah! Ni bydd bythoedd wae na bedd.

Nef, nef fydd yno gydag ef,
Trwy'r oesoedd oll symuda'r nef;
Yr Haul tragwyddol, nid yw'r nef
Fyth ond ei ddydd amgylchol ef.