Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

DDYN, EDRYCH I FYNY

DYN! Edrych i fyny,
Mae'r nefoedd yn awr
Yn nes na'r cymylau,
Yn cyffwrdd â'r llawr;
Ond gwrando, mae uffern
Oll rhyngot a hi
A chysgod y bedd
Yn ymledu mor ddu;

O erchyll rifedi y rhwystrau ar daen,
Ond cyfod, ddyn! Cyfod, ymwthia ymlaen.


Mae nefoedd dragwyddol
Yn haeddu dy gais,
Mae'n werth ei chymeryd
Trwy ryfel a thrais;
Y goron dragwyddol,
Rhaid rhuddo dy gledd
A gwaed dy bechodau,
A chroesi y bedd,

A gadael holl nerthoedd y fagddu dan draed,
A'th waedlyd elynion eu hunain mewn gwaed.


Rhaid llamu i'r wynfa
Oddiar graig ddu angau,
A'th law ar y cledd
Yn dy wregys o ofnau
Cyn cyffwrdd â'r goron
Yn goch dy arfogaeth
O'r olaf ymdrechfa
A chorff y farwolaeth;

Mae'r llaw sy'n ymaflyd, ar drothau y wynfa,
Ym mhalmwydd y bywyd yn crynnu,

Yn crynnu o'r aerfa.