Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YSTORM TIBERIAS

TYRR! Tyrr! Y cwmwl taran,
Teneu gôb y fellten gann.

Dyma'r llong ar donnau'r lli
Acw hyd y nef yn codi;
Hyrddir hi ffwrdd, ffwrdd i'r awyr,
Ar ysplenydd fynydd o fŷr.
A gyr yn ol, gerwin helynt,
Yn flin ei gwedd o flaen y gwynt;
Ac mewn anferth ryferthwy
Sawdd i gyd am ennyd mwy;
Erwin daith, ar waen y don,
Ar y gwenyg brig-wynion.

Ymhyrddiai'r tonnau mawr-ddull
Ar fryniog ardderchog ddull;
A'r llong mewn bâr ollyngid
Ar holl ferw a llanw eu llid;
Amhwyliai hyd ymylon
Eigionau'r dig wynwawr don.


A tafl, tafl, Don, dy wynion freichiau
Am dani mwy, a chladd hi yn dy ddagrau,
A'r Storom, rhuthra arni yn dy lid,
Ac ar dy wefus drom y daran fawr i gyd ;
A'th lugorn mellt yn ennyn yn dy law,
Llwyr-noetha orddyfnderau'r cefnfor draw;
A ffoed trwy eu llydain ddorau hwy,
A thoa hi â mor o donnau mwy,
Mae Duw o'i mewn.