Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd.

GANWYD William Thomas (Islwyn), Ebrill 3, 1832, yn agos i bentref yr Ynys Ddu, yn nyffryn y Sirhowy,— "Hywy" ei gân,—yn sir Fynwy, Yno, wrth droed Mynydd Islwyn, y treuliodd ei oes o fyfyrio, pregethu, a golygu. Bu farw Tachwedd 20, 1878.

Y peth effeithiodd fwyaf arno oedd marw disyfyd Anne Bowen, merch ieuanc oedd wedi ei dyweddio iddo. Teimlodd y pryd hwn ei fod mewn tymhestl, a'i fywyd at drugaredd elfennau didosturi. 'Y Storm, a ffydd gryfhaol yn yr Hwn a reola bob tymhestl, fu prif destun ei gân mwy.

Saith mlynedd yn ol yr oeddwn, debygwn, yn parotoi holl waith barddonol Islwyn i'w gyhoeddi. Y mae'r gyfrol gesglais yn 872 tudalen, a thybiwn fy mod wedi cael popeth ysgrifenasai Islwyn, cyhoeddedig ac anghyhoeddedig. Ond wedi hynny darganfyddwyd ysgriflyfr mawr, lle yr ysgrifenasai Islwyn y rhan fwyaf o'i fyfyrdodau yn ystod y blynyddoedd 1854 hyd 1856,—y blynyddoedd y bu yr ystorom yn curo yn erwin arno ef ei hun. O'r llyfr hwnnw, bron yn gyfan-gwbl, y daw cynhwysiad y gyfrol hon. Nid oes yma, mi gredaf, ond rhyw bedair llinell yn unig o'r hyn sydd wedi ei argraffu eisoes yn y gyfrol "Gwaith Islwyn." Nid oes yma ychwaith ond un gân, neu ddwy, fu'n argraffedig o'r blaen. Yn yr ysgriflyfr rhydd Islwyn y darnau cyntaf,— adgofion am ei glwyf tra'i galon eto'n gwaedu, ac