Tudalen:Gwaith Islwyn.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PA LE CEIR BEDD I DDUW?

PA le ceir bedd i Dduw?
Nid yn y môr, er lleted, dyfned yw.

Pe ceuid y greadigaeth fawr
A llwyr waghau y nef,
Yn un anferthol fedd di-wawr,
Ni chuddiai un marworyn o'i anfeidroldeb Ef.

O, beddfaen Duwdod! Ble y ceid y byd
A'i ffurfiai? Gronyn fyddai'r ser i gyd.
Pe y darfyddai ef, ni fyddai un
I ddadgan hyn ar draeth diddymdra blin.
Ni welid dyn nac angel i ymgwynaw,
Ei feddrod fyddai tragwyddoldeb distaw.

Onis gall Natur ennyd hebddo fyw ;
Ei bywyd, amod ei bodolaeth, yw.

Hi grynnodd, fel pe'n teimlo dieithr law
Diddymdra ar ei hysgwydd greigiau draw,
Pan welodd ar y bryn ei fantell waed,
Yn nwylaw'r milwyr ffroch a'r dafnau dan eu traed;
Y dydd y chwysodd waed ar hyd e fantell dlawd,
Y gwaedodd lanw o iawn o'i fynwes gnawd.

Y dyn, y dyn yn unig, yno gaed;
Ond aeth ei olaf floedd
Dros gaerau'r nef, a thybiai'r haul
Mai Duw ei hunan oedd;
A mwy ni welwyd ei wynepryd ef,
A mwy ni welsid, oni fuasai i Ner
Wasgaru'r cwmwl gwaed, a syllu i lawr o'r nef,
Ac archu iddo eilwaith ail ddringo bryniau'r ser